Telerau ac Amodau

1. Eich Cyfrif

Os ydych chi’n defnyddio’r wefan yma, eich cyfrifoldeb chi yw cadw cyfrinachedd eich cyfrif, a’ch cyfrinair, ac i sicrhau nad oes neb yn cael mynediad i’ch cyfrif heb yn wybod i chi. Dylech adael i ni wybod yn syth os ydych yn amau fod unrhyw un yn defnyddio eich cyfrif heb awdurdod.

Sicrhewch, os gwelwch yn dda, fod y manylion yr ydych yn eu rhoi i ni yn gywir, gan adael i ni wybod yn syth y bydd unrhyw beth yn newid. Cedwir yr hawl i wrthod mynediad i’r wefan neu ganslo archeb yn ol y gofyn.

Top y dudalen

2. Preifatrwydd

Darllenwch ein polisi preifatrwydd, er mwyn deall ein ymarferion.

3. Mynediad i’r Wefan.

Ceisiwn sicrhau y bydd ein gwefan ar gael drwy’r amser ac heb gamgymeriadau. Ond, oherwydd natur y rhyngrwyd, ni ellir gwarantu hyn. Efallai hefyd y bydd yn rhaid, trwsio neu chywreinio’r wasanaeth ar adegau ond ceisir cadw hyn o dan reolaeth.

Top y dudalen

4. Trwydded ar gyfer mynediad i’r wefan.

Mae’r wefan hon ar gael ar gyfer eich defnydd personol, ond ddim i lawrlwytho unrhyw dudalennau, nac i’w newid mewn unrhyw ffordd, heb hawl ysgrifenedig.

Ni chaniateir chwaith defnyddio’r logo neu unrhyw ran arall o’r wefan heb hawl ysgrifenedig y perchennog, Tlws.

5. Eich Ymddygiad

Rhaid defnyddio’r wefan hon ar gyfer ymddygiad gyfreithiol yn unig.

6. Hawlfraint a Hawliau Bas Data

Tlws biau holl gynnwys y wefan, ac fe’i gwarchodir gan reolau hawlfraint a bas data Y Deyrnas Unedig.

Top y dudalen

Gwerthiant Nwyddau

7. Ein Cytundeb

Pan ydych chi’n rhoi archeb ar y wefan, byddwn yn gyrru e-bost yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich archeb, gan gynnwys manylion eich archeb. Bydd eich archeb yn cynrychioli eich cynnig i ni i brynu nwyddau sy’n dderbyniol i chi, fydd yn cael ei gadarnhau pan yrrwn ni e-bost i chi yn cadarnhau ein bod am yrru’r eitem i chi. Bydd y cytundeb wedi’i gwblhau pan yrrwn ni e-bost yn cadarnhau ein bod wedi gyrru’r eitemau i chi. Ni fydd unrhyw eitemau ar yr un archeb na fyddwn yn cadarnhau eu bod wedi’u danfon yn rhan o’r un cytundeb.

8. Dychwelyd eitemau

Gweler ein polisi ar ddychwelyd eitemau.

Top y dudalen

9. Prisio a Eitemau nad ydynt mewn stoc.

Pan awgrymir dyddiad y caiff yr eitemau eu postio, ni ellir gwarantu’r amseroedd hyn. Fel yr ydym yn mynd trwy’r archeb, gwnawn adael i chi wybod os oes unrhyw eitem ddim ar gael. Os oes unrhyw newid prisiau yn digwydd yn ystod y cyfnod yna byddwn yn gadael i chi wybod cyn gynted ag y bo modd, gan roi’r dewis terfynol i chi os ydych eisiau parhau a’r archeb ai peidio.

Top y dudalen