Newyddion Tlws

Breichled i godi arian.

Mae Lois Alaw, merch 13 oed Gaenor Roberts, perchennog Tlws wedi creu breichled er cof am ei ffrind Christie fu farw yn sydyn cyn y Nadolig. Mae'r holl elw yn mynd i brynu rhywbeth er cof am Christie yn Ysgol Dyffryn Conwy, ac i elusen o ddewis ei theulu. Mae'r breichledau yn costio £4 yr un, ac yn dod mewn dewis o 5 lliw - perl, piws, pinc, siampen a llwyd-ddu. I archebu eich breichled, gyrrwch siec + £1 postio wedi'i wneud i L A Roberts at Tlws, 67 Stryd y Farchnad, Abergele Conwy LL22 7AF. Cofiwch nodi eich dewis o liw, a'ch manylion cyswllt. Diolch.

Breichled i godi arian



Follow us on Facebook