Amdanom Ni
Mae Tlws yn gwmni gemwaith cyffrous sy'n arbenigo mewn gwerthu gemwaith cyfoes, wedi'i wneud o arian,gyda cherrigemau neu gemwaith gwisg yn ogystal a gemwaith unigryw Tlws sy'n cael ei wneud efo llaw: rhywbeth at ddant pawb!!
Sefydlwyd Tlws yn Awst 2005 ar fferm y perchennog, cyn-athrawes - Gaenor Roberts, yn Llanfair Talhaiarn ger Abergele, Gogledd Cymru. Erbyn hyn mae gan Tlws siop yn Abergele yn ogystal â pharhau i werthu trwy’r wefan, catalog, trwy gynnal stondinau mewn sioeau ac Eisteddfodau Cenedlaethol a thrwy gynnal nosweithiau gwerthu gemwaith.
Mae tîm o tua wyth yn cynnal y nosweithiau ar hyd a lled Cymru a gogledd Lloegr.
Rhan o apêl Tlws yw’r amrywiaeth o emwaith yn y casgliad. Yn y casgliad ceir gwaith gan wahanol ddylunwyr lleol o Gymru a Phrydain, fel cwmni Kate Hamilton-Hunter o Abergele, a Carrie Elspeth o dde Cymru ochr yn ochr â gemwaith o wledydd eraill.
Mae’r cwmni yn gweithredu’n hollol ddwyieithog. Prif bwyslais y cwmni ydi rhoi gwasanaeth heb ei ail – manylion personol fel gwasanaeth lapio, tocynnau anrheg â’r cynnig i gynnwys neges bersonol ar gerdyn anrheg.
Fel y soniwyd, mae Tlws hefyd erbyn hyn yn creu gemwaith - fe welwch y cyfresi - Tlysau, Sglein ac Ecotlws ar ein gwefan.
Mae Tlysau yn gyfres o emwaith wedi'i creu yn defnyddio deunyddiau fel pren, cregyn neu gerrigemau.
Sglein- cyfres o emwaith cyfoes wei'u gwneud o wydr, wedi'u torri â llaw ac wedi'u toddi mewn odyn.
Ecotlws - Gemwaith ecogyfeillgar wedi'i wneud o wydr a deunyddiau eraill wedi eu hailgylchu. pa ddefnydd gwell i hen ffenestri, boteli gwin ac ati?!
Gallwn hyd yn oed greu gemwaith unigryw ar eich cyfer, at briodas, unrhyw achlysur arbennig, neu greu anrheg arbennig ac unigryw. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion.
Siopa yn Tlws
Os hoffech alw heibio ein siop yn Abergele, yna bydd Joyce neu Gaenor yn fwy na pharod i'ch helpu. Gallwch weld gemwaith Tlws ar werth hefyd yn y lleoedd canlynol:
- Oriel Mon, Llangefni
- Siop T-hwnt Caerfyrddin
- Nant Gwrtheyrn
- Siop Bys a Bawd Llanrwst
- Canolfan Twristiaeth Betws y Coed
- Carchar Rhuthun
